TINTIN
Y SEREN WIB
Y STORI’N FYR
Wrth fynd am dro un noson glir, mae llygaid Tintin yn codi tua’r nen. I fyny fry, gwêl seren yn tyfu’n fwy ac yn fwy a buan y daw’n amlwg nad seren gyffredin mohoni, ond meteorit sy’n hyrddio tua’r Ddaear. Yn ffodus i Tintin, a’r gweddill ohonom, mae’r garreg danllyd yn gwibio heibio i’r Ddaear, ond disgyna un darn ohoni yn y môr ger Pegwn y Gogledd. Gyda’r awgrym fod y garreg o’r gofod yn cynnwys metel newydd sbon, gorchwyl Tintin a’r Capten Hadog yw hwylio ar daith ymchwil wyddonol i oerni’r gogledd i geisio dod o hyd i’r meteorit. Ond heb yn wybod i Tintin, mae pwerau rhyfedd iawn yn perthyn i’r metel newydd yma – pwerau y mae ciwed ddistadl hefyd am gael gafael arnyn nhw.
ISBN: 978-1-906587-22-2
Gan Hergé. Addasiad Dafydd Jones
Cyhoeddwyd Gorffennaf 2011. 64 tudalen, clawr meddal. 215mm x 295mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru
© Casterman | Dalen (Llyfrau) Cyf | tintin.com
PRYNU’R LLYFR
Pris £6.99 a chludiant
Dewis y lleoliad priodol – bydd y gost berthnasol ar gyfer cludiant
yn cael ei ychwanegu at bris y llyfr
SYNOPSIS IN ENGLISH
Out walking one evening, Tintin notices a growing light amongst the stars – a meteorite heading towards Earth. Fortunately for all of us the meteorite misses the Earth, but a fragment of it lands close to the North Pole. Tintin and Capten Hadog set forth on a voyage of scientific research to find this mineral–rich rock, which possesses some strange extraterrestrial properties that take Tintin by surprise. But an even bigger problem faces the boy reporter when unscrupulous forces head in the same direction.
ISBN: 978-1-906587-22-2
By Hergé. Adapted by Dafydd Jones
Published July 2011. 64 pages, paperback. 215mm x 295mm
Published with financial assistance from the Books Council of Wales
© Casterman | Dalen (Llyfrau) Cyf | tintin.com
buy the book
Price £6.99 plus postage
Tell us where you are – we’ll add the relevant postage cost
to your book