ASTERIX
Y GALIAD
Y STORI’N FYR
Titus Taliadbonus yw canwriad gwersyll Rhufeinig Dalpenrhesum. Mae e bron â torri’i fol eisiau gwybod beth yw’r gyfrinach y tu ôl i nerth rhyfeddol y rhyfelwr dewr Asterix, a gweddill y Galiaid sy’n byw yn y pentre gerllaw. Caiff y llengfilwr di–nod, Caligula Minus, ei anfon i ysbïo ar drigolion y pentre a dod o hyd i'r gyfrinach. Yno, mae'n cael swig o ddiod hud y derwydd Gwyddoniadix sy’n rhoi nerth goruwchddynol i’r Galiaid. Mae hynny’n ddigon o reswm i’r Rhufeiniaid benderfynu cipio Gwyddoniadix i geisio cael gafael ar gyfrinach y ddiod hud. Ond mae Asterix yn benderfynol o achub y derwydd – ac ar yr un pryd ddysgu gwers i’r Rhufeiniaid a’u dwylo blewog.
ISBN: 978-1-906587-26-0
Gan René Goscinny ac Albert Uderzo. Addasiad Alun Ceri Jones
Cyhoeddwyd Gorffennaf 2012. 48 tudalen, clawr meddal. 218mm x 287mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru
© Les Éditions Albert-René | Dalen (Llyfrau) Cyf | asterix.com
PRYNU’R LLYFR
Pris £6.99 a chludiant
Dewis y lleoliad priodol – bydd y gost berthnasol ar gyfer cludiant
yn cael ei ychwanegu at bris y llyfr
SYNOPSIS IN ENGLISH
Titus Taliadbonus, centurion of the garrison of Dalpenrhesum, is desperate to discover the secret that gives plucky warrior Asterix, and his fellow Gaulish villagers, their superhuman strength. Hapless legionary Caligula Minus is sent on a spying mission to the Gaulish village, where he’s given some of druid Gwyddoniadix’ magic potion which gives the Gauls their amazing strength. The Romans decide to kidnap Gwyddoniadix to get his secret, but the druid’s lips are sealed. When Asterix arrives to save him, the Gauls have an opportunity to teach the greedy Romans a timely lesson.
ISBN: 978-1-906587-26-0
By René Goscinny and Albert Uderzo. Adapted by Alun Ceri Jones
Published July 2012. 48 pages, paperback. 218mm x 287mm
Published with financial assistance from the Books Council of Wales
© Les Éditions Albert-René | Dalen (Llyfrau) Cyf | asterix.com
buy the book
Price £6.99 plus postage
Tell us where you are – we’ll add the relevant postage cost
to your book