CYMRAEG

KERNEWEK

BREZHONEG

GAEILGE

CYMRAEG

ENGLISH

BYD LEWSYN LWCUS

 

Daeth Lewsyn Lwcus i‘r byd ym 1946, pan gyhoeddodd yr awdur Morris antur gyntaf Lewsyn – Arizona – yn y cylchgrawn Ffrangeg wythnosol o wlad Belg, Spirou. Wrth gwrs, Lewsyn Lwcus yw enw Cymraeg y cowboi hirben a phraff – ei enw Ffrangeg gwreiddiol yw Lucky Luke, ac er mai dyna’i enw fe yn Saesneg hefyd, mae’r ynganiad Ffrangeg yn debycach i Lwcky Lwck.

 

Ers 1946 ymddangosodd Lewsyn Lwcus mewn dros 80 o anturiaethau, 5 cyfres deledu (fe welwyd un gyfres yn Gymraeg ar S4C yn y 1990au, ac mae rhai o’r penodau ar gael ar y we), 4 ffilm gartwn, 3 ffilm ‘fyw’, ac 16 gêm fideo.

 

Dros y blynyddoedd mae dros 300 miliwn o lyfrau Lewsyn Lwcus wedi cael eu gwerthu ar draws y byd mewn 29 o ieithoedd, ac fe gyhoeddwyd y llyfrau yn Gymraeg am y tro cynta yn 2007 pan ymddangosodd Y Goets Fawr. Mae’r anturiaethau Cymraeg yn deillio o’r cyfnod o ddiwedd y 1960au ymlaen pan oedd Morris yn cydweithio ar y llyfrau gyda’r storïwr dihafal René Goscinny, sef awdur anturiaethau Asterix.

 

Disgrifiodd yr awdur Morris Lewsyn Lwcus fel hyn : “Fe sy’n gwarchod y bobol sy dan y fawd. Mae straeon Lewsyn yn rhyw fath o gyfuniad o gowbois y sinema – y dynion da sy’n gwisgo’r hetiau gwyn, a’r dihirod sy’n gwisgo’r hetiau du.”

LEWSYN’S WORLD

 

Lewsyn Lwcus saw the light of day when author Morris published the first adventure, Arizona, in the Franco-Belgian weekly Spirou in 1946. Lewsyn Lwcus, of course, is the sharp-shooting cowbody’s Welsh name – his original French name is Lucky Luke, and despite this also being his name in English, the French pronunciation is more like Looky Look.

 

Since 1946, Lewsyn Lwcus has appeared in 80 adventure ‘albums’, 5 television series (one of which was shown on S4C in Welsh in the 1990s, with some episodes available online), 4 animated films, 3 live action films, and 16 video games.

 

Over the years, more than 300 million Lewsyn Lwcus albums have sold worldwide in 29 languages. The Welsh versions first appeared in 2007 with the publication of Y Goets Fawr. The Welsh books stem from the period in the late 1960s when Morris was working on the series with the prolific stortyteller René Goscinny of Asterix fame.

 

Creator Morris, described Lewsyn Lwcus as : “…The protector of the downtrodden. Lucky Luke is a sort of synthesis of all the cowboys of cinema. The heroes wear a white hat, and the baddies wear a black one.”

Dalen (Llyfrau) Cyf,   Tresaith,   Ceredigion SA43 2JH   |   Cymru   |   Kembra   |   Bro Gembre   |   An Bhreatain Bheag   |   A’ Chuimrigh   |   Wales

ENGLISH

GÀIDHLIG

SCOTS