CYMRAEG

KERNEWEK

BREZHONEG

GAEILGE

CYMRAEG

ENGLISH

© Rita Scaglia/Dargaud

NÔL i’R GYFRES

AWDURON LEWSYN LWCUS

 

MORRIS (MAURICE DE BÉVÈRE)

 

Ar 1 Rhagfyr 1923, ganed Morris – neu Maurice de Bévère – yn Courtrai yng ngwlad Belg, a dyfodd yn ei dro i fod yn un o sylfaenwyr y stori stribed yn Ewrop. Roedd yn rhugl mewn tua 8 o ieithoedd, ac astudiodd y gyfraith yn y coleg. Yna dysgodd grefft byw-ddarlunio cyn ymuno â stiwdio animeiddio y Companige Belge d’Actualités, lle cyfarfu ag André Franquin, Eddy Paape a Peyo, tri a ddaeth yn eu tro i fod yn sêr disglair eraill y cyfrwng stori stribed.

 

Yn 1945 dechreuodd ddarlunio cloriau’r cylchgrawn dychanol Le Moustique, a dyna pryd y dechreuodd ddefnyddio’i ffugenw, Morris. Dyma hefyd pryd y creodd gymeriad Lewsyn Lwcus, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn stori Arizona 1880 ym mis Rhagfyr 1946 yng nghylchgrawn Spirou… Lewsyn Lwcus, a Llamri Llon ei geffyl ffyddlon a doeth, Rhun-tun-tun y ci mwya twp yn y Gorllewin Gwyllt, a chast eang o gymeriadau byd y cowboi, gan gynnwys pedwar dihiryn y Brodyr Dalton.

 

Yn fuan iawn profodd Lewsyn Lwcus lwyddiant rhyngwladol yn y byd stori stribed, diolch i graffeg clir a llawn mynegiant Morris. Rhwng 1948 a 1955 roedd Morris yn ymwelydd cyson ag America, lle daeth o dan ddylanwad dychanwyr y comic Mad, ac yn Efrog Newydd cyfarfu â’r sgwennwr toreithiog René Goscinny. Bu’r ddau’n gydweithwyr clòs hyd nes i Goscinny farw’n ddisymwth yn 1977.

 

Yn ystod ei yrfa derbyniodd Morris nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr gan Sefydliad Iechyd y Byd yn 1988 am iddo hybu’r neges yn erbyn smygu a diffodd sigaret Lewsyn Lwcus am byth. Yn 1992 dyfarnodd yr Académie des Grands Prix Wobr Arbennig 20fed Penblwydd Arddangosfa Stori Stribed Ryngwladol Angoulême iddo, ac yn 1998 urddwyd Morris gan wladwriaeth Ffrainc yn Swyddog yn yr Urdd Celf a Llên.

 

Bu farw Morris ar 17 Gorffennaf 2001 yn 77 oed.

 

 

GOSCINNY (RENÉ GOSCINNY)

 

Ganed René Goscinny ar 14 Awst 1926 ym Mharis, i deulu a hanai o wlad Pwyl, ond treuliodd ei febyd yn Buenos Aires yn yr Ariannin oherwydd gwaith ei dad. Ar ôl cyfnod byr yn gweithio fel cyfrifydd mewn ffatri ailgylchu teiars, cafodd swydd fel cyw ddylunydd mewn asiantaeth hysbysebu, ond erbyn iddo gyrraedd 19 oed trodd ei olygon am America. Roedd yn dyheu am gael gweithio i Walt Disney, ac er na wireddodd e’r freuddwyd honno, daeth ar draws y meddyliau creadigol Harvey Kurtzman, Will Elder a Jack Davis, y tri aeth ati i greu comic dihafal Mad. Yn fuan, sylweddolodd Goscinny bod y math hwnnw o hiwmor Eingl-Americanaidd yn taro deuddeg â’i hiwmor ei hun.

 

Yn Efrog Newydd cyfarfu â Morris, ac yna ym Mharis yn 1951 ag Albert Uderzo. Dyma pryd y penderfynodd bod yn well ganddo sgwennu straeon stribed na’u darlunio, ac aeth ati i greu lliaws o gymeriadau gan gynnwys yr Indiad Oumpah-pah, y gyrrwr tacsi Strapontin, a’r newyddiadurwr ifanc Luc Junior.  Yn 1955 aeth ati i ddechrau gweithio gyda Morris ar Lewsyn Lwcus.

 

Erbyn 1959 roedd Goscinny wedi creu Asterix gydag Albert Uderzo, ac yn 1962 roedd yn cydweithio â’r arlunydd Jean Tabaray ar gyfres Iznogoud, swyddog drygionus yn llys y caliph yn Baghdad.

 

Drwy’r 60au a’r 70au by Goscinny ynghlwm â degau o brosiectau gwahanol ym myd llyfrau, cylchgronau, papurau newydd, teledu, ffilm a chartwns, gan gynnwys sefydlu Studios Idéfix ym 1974, lle cynhyrchwyd nifer o ffilmiau byw-ddarlunio Asterix a Lewsyn Lwcus. Ond yn ddisymwth ar 5 Tachwedd 1977, ar ymweliad â’r meddyg, bu farw Goscinny yn 52 oed o drawiad ar y galon.

 

THE LEWSYN LWCUS AUTHORS

 

MORRIS (MAURICE DE BÉVÈRE)

 

Maurice de Bévère – or Morris – was born on 1 December 1923 in Courtrai in Belgium. In time he was to become one of the founders of the Franco-Belgian bande dessinée genre. Morris could speak some 8 languages and studied law at university, before following a course in animation. He then joined the Companige Belge d’Actualités animation studio where he met André Franquin, Eddy Paape and Peyo, a trio who would also become shining stars of the bande dessinée.

 

In 1945 he beganm illustrating covers for the satirical magazine Le Moustique, working under his new nom de plume, Morris. It was at this time he also created Lucky Luke/Lewsyn Lwcus, who made his first appearance in Spirou magazine in December 1946 in his first adventure Arizona 1880… Lewsyn Lwcus along with his wise and faithful horse Jolly Jumper/Llamri Llon, the Wild West’s stupidest dog Rantanplan/Rhun-tun-tun, and a cast well-known names from the world of cowboys, including the four sibling villains, the Dalton Brothers.

 

Lucky Luke/Lewsyn Lwcus soon proved to be an international success thanks to Morris’ clear line and expressive illustrations. From 1948 and 1955 he was a regular visitor to the USA, and was heavily influenced by the satirical comedy of Mad magazine. It was in New York where he met the prolific writer René Goscinny, with whom he was to collaborate closely until Goscinny’s untimely death in 1977.

 

In a long career, Morris was given numerous awards, including a World Health Organization award in 1988 in recognition of his stance against smoking after extingushing Lewsyn Lwcus’ last ever cigarette. In 1992 the Académie des Grands Prix awarded him the Special 20th Anniversary Award of the Angoulême Salon International de la Bande Dessinée, and in 1998 Morris was made an Officier of France’s Order of Arts and Letters.

 

Morris passed away on 17 July 2001 aged 77 years.

 

 

GOSCINNY (RENÉ GOSCINNY)

 

René Goscinny was born in Paris on 14 August 1926 to a family originally from Poland, but spent his youth in Buenos Aires, Argentina, because of his father’s work there. He lost his father when he was 17 years old, and found work as an accountant in a tyre recycling factory, and then as an apprentice designer at an advertising agency. By the age of 19, Goscinny and his family had moved to America where he had his sights on working for Walt Disney. Although he never realised that particular dream, he did cross paths with the brilliantly comic minds of Harvey Kurtzman, Will Elder and Jack Davis, who later went on to establish the inimitable Mad magazine. Goscinny soon realised that their Anglo-Americal sense of humour reflected his own style of comedy.

 

Goscinny met Morris in New York, and then, in Parisin 1951, with Albert Uderzo. This is when he decided he perferred writing comic strips rather than illustrating them, and proceeded to create a myriad of characters including the Red Indian Oumpah-pah, the taxi driver Strapontin, and the young news reporter Luc Junior.  In 1955, Goscinny began working with Morris on Lucky Luke/Lewsyn Lwcus.

 

By 1959 Goscinny had created Asterix with Albert Uderzo, and in 1962 was working with illustrator Jean Tabaray on Iznogoud, a series about an evil chamberlain in the caliph’s court in Baghdad.

 

Throughout the 60s and 70s, Goscinny was involved with tens of different projects in the world of books, magazines, newspapers, television, film and animation, including establishing Studios Idéfix in 1974, home to several  Asterix and Lucky Luke/Lewsyn Lwcus animated films. But suddenly on 5 November 1977, during a routine visit to his doctor, Goscinny suffered a fatal heart attack. He was just 52 years old.

 

Dalen (Llyfrau) Cyf,   Tresaith,   Ceredigion SA43 2JH   |   Cymru   |   Kembra   |   Bro Gembre   |   An Bhreatain Bheag   |   A’ Chuimrigh   |   Wales

ENGLISH

GÀIDHLIG

SCOTS